Annwyl Jack Sargeant AS,

 

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb am fy neiseb. Diolch am roi cyfle i mi ymateb.

 

Rwy’n credu eu bod hi’n wych bod y Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gynnal adolygiad o’r rheoliadau bwyta yn iach mewn ysgolion a bod rhai llywodraethau lleol ddim yn cynnwys cig ar y fwydlen. Hoffwn gwybod lle yn union yng Nghymru oherwydd rydw i yn gwybod bod nifer o lywodaethau lleol yn Lloegr ac yr Alban yn gwneud hwn? Hoffwn gwybod pryd fydd yr adolygiad yn yr ymateb, yn digwydd a gorffen. Oes yna rhyw fath o amserlen neu cynllyn amdano hyn? Dydw I ddim yn credu mae ymrwymo yn digon ac mae’n rhaid i ni wneud yn well yn Nghymru i bwyta llai gig. Yn ogystal a hyn dydw i ddim yn credu bod yr ymateb yn ddigon clir ac yn afael ar y mater a cwestiwn wnes i ofyn yn digonol.

 

Er bod llywodraeth lleol gyda rheolaeth dros bwydlen ysgolion rydw i yn credu dylsau  pob plentyn yng Ngymru bod yn rhan o newid i ein byd a’n iechyd er well. Mae hi’n siom bod Llywodraeth Cymru ddim eisiau gwneud hwn. Fe wnaeth Sophie Howe cyn Comisynydd Cenedlaethau’r Dyfodol galw Dydd Llun di-gig yn “no brainer” ac yn “easy win” ar podlediad BBC ‘Rare Earth Can Politicians Save the Planet’.

 

Hefyd mae’n rhaid ystyried y Strategaeth Fwyd Genedlaethol wnaeth cael ei comisiynu yn 2019 gan llywodraeth y Deyrnas Unedig. Wnaeth argymell iddyn ni lleihau ein defnydd o gig 30% dros y degawd nesaf, sut well ffordd i gwneud hyn na chael Dydd Llun di-gig. Ac yn ogystal wnaeth e hefyd dweud dylsau bod pob ffreutur cyhoeddus cael o leuaf un diwrnod di-gig yr wythnos. 

 

Fe wnaeth y llywodraeth yn Denmarc cyhoeddu cynllun cenedlaethol cyntaf am sut a alla‘i y wlad symud tag at system bwyd seiliedig ar blanhigion. Rydw i yn gobeithio bydd ein gwlad ni yn gael cynllun fel hyn.

 

 

Yr eiddoch yn gywir

 

Manon Thompson